“…[T]he effectiveness of any [teaching] method or approach is less influential than the skill and competence of the teacher delivering it”

(Fitzpatrick et al., 2018, tud.59)

Un o’r prif heriau o fewn y sector addysg (cyfrwng Cymraeg (CC) a chyfrwng Saesneg (CS)) yw sicrhau gweithlu gwybodus i fynd i’r afael â’r heriau ag amlygwyd yng nghanlyniadau’r cyfrifiad.  Mae hyn yn gofyn am gynllun uchelgeisiol (a chyllideb ddigonol) i:

          i.            gynnal arolwg dwys o’r hyn sydd yn digwydd ar lawr dosbarth ar hyn o bryd (CC a CS);

         ii.            uwchsgilio’r gweithlu presennol yn seiliedig ar ganfyddiadau’r arolwg;

       iii.            darparu cynllun hyfforddiant proffesiynol parhaus mandadol – ar hyd gyrfa – i athrawon newydd gymhwyso, sydd â ffrwd benodol ar gyfer uwchsgilio staff yn barhaus am ddulliau effeithiol o gynhyrchu siaradwyr hyderus ddwyieithog;

       iv.            Diwygio rhaglenni hyfforddiant gychwynnol i athrawon i sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn sylfaen ddigonol o wybodaeth am sail a phwrpas addysg drochi, caffael vs. dysgu iaith, anghenion siaradwyr newydd, pwysigrwydd agwedd cymhelliant a ayb. fel eu bod yn gallu mynd i’r afael â gofynion y Cwricwlwm Newydd yn effeithiol.

Yn dilyn diwygiad addysgol ar raddfa eang dros y ddegawd diwethaf yma yng Nghymru, bydd cyflwyno lefel arall o newid, yn benodol er mwyn sicrhau cynnydd yn niferoedd a pharodrwydd disgyblion i siarad ac ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg – yn y sector CC a CS – yn her. Ond bydd cost i ddyfodol yr iaith o beidio addasu’r drefn gyfredol. Un o’r heriau yw bod tuedd i ffafrio modelau uniaith o addysgu – uniaith Gymraeg yn y sector CC, heb wahaniaethu’n fwriadus yn ôl cefndir iaith (gyda Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol fel pwnc), ac uniaith Saesneg (gyda’r Gymraeg ac ieithoedd rhyngwladol fel pwnc) yn y CS. Ond mae’r Gymraeg yn gyfrwng ac yn bwnc. Gyda chadarnleoedd y Gymraeg yn gynyddol crebachu o ran niferoedd, a throsglwyddiad y Gymraeg yn y cartref yn dirywio, mae’n allweddol bod ysgolion yn creu’r amodau ble gall blant gaffael y Gymraeg yn naturiol – sef sail addysg drochi – tra hefyd yn dysgu ffurfiau’r iaith. Mae hyn yn fwy heriol yn y CS na’r CC oherwydd sgiliau iaith athrawon, ond mae’n amlwg nad yw’r model cyfredol yn y CC yn arwain at unigolion sy’n hapus i siarad Cymraeg o reidrwydd. Os am wireddu prif nodau strategaeth 2050, rhaid diwygio’r ffurf gyfredol o addysgu, yn y CC a CS, gan ystyried anghenion, agweddau, cyd-destun, a lle y Gymraeg ym mywydau plant y 2020au.

Mae datblygu sgiliau Cymraeg athrawon di-Gymraeg yn gam pwysig, ond nid yn ddatrysiad i’r broblem. Rhaid bod yn ddyfeisgar a chynnig y profiad o gaffael y Gymraeg i bob disgybl – CC a CS –  trwy gynllunio rhaglenni trochi iaith pwrpasol. Yn sgil y datblygiadau aruthrol sydd wedi digwydd yn y byd digidol, mae posib creu adnoddau digidol a pharu ysgolion yn rhithiol er mwyn rhannu arbenigedd athrawon sy’n medru’r Gymraeg a pharu ysgolion fel bod modd i siaradwyr brodorol a siaradwyr newydd fanteisio ar gyfleoedd i ddod at ei gilydd i ymfalchïo mewn bod yn rhan o’r byd dwyieithog.